Y Pwyllgor Cyllid
|
|
||
|
|
|
|
|
Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA
19 Mawrth 2015 |
Annwyl Syr / Madam
Ymgynghoriad ar ymchwiliad i gasglu trethi datganoledig
O fis Ebrill 2018, bydd angen i Gymru gael system ar gyfer casglu a rheoli trethi newydd a gyflwynir yng Nghymru. I baratoi ar gyfer y cyfrifoldebau newydd hyn, mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i gasglu trethi datganoledig. Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad ar gael ar wefan y Pwyllgor.
Cefndir
Dros yr haf eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth ar gasglu a rheoli trethi, ac er mwyn bod yn barod ar gyfer hyn, mae wedi cyhoeddi'r Papur Gwyn, Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n cynnal dau ymgynghoriad arall sy'n ymwneud â datblygu Treth ar Waredu i Safleoedd Tirlenwi a chynigion i gyflwyno Treth Trafodiadau Tir i ddisodli Treth Dir y Dreth Stamp. Mae'r ddau ymgynghoriad yn cau ym mis Mai 2015. Mater i Lywodraeth nesaf Cymru fydd bwrw ymlaen a deddfwriaeth mewn perthynas â'r trethi hyn i'w rhoi ar waith ym mis Ebrill 2018.
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn edrych yn benodol ar gasglu trethi newydd, ac wrth ystyried hyn bydd y Pwyllgor yn trafod y canlynol:
· y sefydliadau mwyaf effeithlon i gasglu trethi datganoledig yn y byrdymor a'r hirdymor; a'r
· cydbwysedd rhwng yr angen am sefydlogrwydd a chyfleoedd i ddatblygu trethi sydd wedi'u teilwra ar gyfer Cymru yn y dyfodol.
Er mwyn helpu gyda'r ymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau yn Atodiad A.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu'n Saesneg gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig, (nid ar ffurf dogfen PDF, yn ddelfrydol) i SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cyllid
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 24 Ebrill 2015. Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn ymlaen at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr adolygiad. Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu gwybodaeth
Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Fel arall, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael ar gais drwy gysylltu â'r Clerc (Leanne Hatcher 0300 200 6343).
Yn gywir
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd